top of page
WhatsApp Image 2026-10-04 at 16.26.40 (2).jpeg

Welcome Home 

Elfyn Evans is Wales' first ever World Rally Champion driver – an achievement that will be celebrated at a special 'Welcome Home' event in his home town of Dolgellau. The event will share his historic success with the fans, friends and local communities who have supported him on his journey from one of rallying's traditional heartlands to the top of the world. 

SUPPORTED BY

Cyngor Gwynedd black_2x.png
JDS logo transparent_2x.png
Mon Medics logo.jpg
Lloyds Coaches logo.webp
Quick Fence hire logo.jpg

Welcome Home Event: Thursday 15 October 2026

Following the fantastic news that Elfyn Evans and his co-driver Scott Martin have been crowned FIA World Rally Champions, we are pleased to confirm that there will be a special ‘Welcome Home’ event to celebrate this success.

 

Supported by Dolgellau Town Council and Gwynedd Council, the event in Dolgellau will see the town welcome Elfyn home and allow fans to hear how he secured the world title after a dramatic finish on the very last stage of the season.

 

Date: Thursday 15 October

Time: From 5.45pm

Location: Eldon Square, Dolgellau, Gwynedd

 

Elfyn will drive his Toyota Yaris Rally1 rally car into Eldon Square where it will be on display, and fans will be able to hear about his exciting season and what it means to become the first ever Welsh world rally champion driver.

 

There will also be an opportunity for photos and autographs with Elfyn.

​

Parking

Parking for the event is exclusively at the Livestock Market, Bala Road, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YF. It's about 600 metres and a short 8 minute walk from the Livestock Market to Eldon Square.

​

Please follow the yellow event signs for parking and use the A470 then turn onto the A494 signposted for Dolgellau and Bala at the roundabout. The entrance to the farmers mart parking is on the left. https://what3words.com/innovate.spray.refrain

 

If the mart becomes full, additional parking will be available at Dolgellau College, Ffordd Ty'n Coed, Dolgellau LL40 2SW.

https://what3words.com/sake.gong.exhale 

 

Disabled parking spaces will be available in Dolgellau as normal.

 

A shuttle bus service will operate between the farmers mart and the Marian car park area for people of reduced mobility. If the college car park comes into the use then a shuttle bus will operate between it and the Marian car park area also.

 

Do not use Dolgellau town centre to reach the car parks.

​

The Marian Mawr car park will not be available for parking and will be closed from 8am on Thursday 15 October. 

​

Please aim to car share as much as possible as parking is limited. If the event car parks become full then please park with consideration for local residents and businesses.

​

Weather

Please come prepared for the weather, which may be cold and wet. The event will finish in darkness so please be careful when leaving the event. Please stay on footpaths, don’t spill onto the road and be mindful that surfaces may be wet and slippery. Apart from Eldon Square, all roads will remain open so please pay attention, stay alert and remain on footpaths.

 

Event Timings

16:15 - Car park opens

17:35 - Welcome and warm-up

17:45 - Elfyn arrives in Eldon Square

18:10 - Autograph and meet the fans

18:35 - Move to Marian car park

18:50 - Display in Marian car park

19:00 - Event finishes       

​​

Road Closures

To help safely facilitate the event, there will be parking restrictions in Eldon Square with no parking permitted from 1.00pm on Thursday. There will be a full road closure in Eldon Square from 3.30pm to 8.00pm.

​

The Marian Mawr car park will be closed from 8.00am on Thursday and we ask that all vehicles are removed prior to that time. The car park will have barriers around the perimeter and there will be no access for vehicles from 8.00am.

​

We ask that everyone respects the restrictions and road closures to ensure the event runs smoothly and safely, and can be enjoyed by both local people and visitors.

​

Updates

This page will be updated in the coming days as further details become available.

​

Contact

For any queries, please contact Dolgellau Town Council by email  or phone on 01341 421071.

​

Media

Any media outlets wishing to attend, please contact glenn@reallycleverpr.com for registration.

​

​

​​

Croeso Adref Elfyn: Dydd Iau 15fed o Hydref 2026

​

Yn dilyn y newyddion gwych bod Elfyn Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin wedi eu coroni yn Bencampwyr Rali’r Byd, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd digwyddiad arbennig i ddathlu’r llwyddiant.

Gyda chefnogaeth Cyngor Tref Dolgellau a Chyngor Gwynedd, bydd y digwyddiad yn gyfle i groesawu Elfyn adref, ac yn gyfle i gefnogwyr glywed sut y sicrhaodd deitl pencampwr y byd ar ôl diweddglo dramatig ar gymal olaf un y tymor.

 

Dyddiad: Dydd Iau 15fed o Hydref
Amser: 5.45 ymlaen
Lleoliad: Sgwâr Eldon, Dolgellau, Gwynedd 

​

Bydd Elfyn yn gyrru ei gar rali Toyota Yaris Rally1 i Sgwâr Eldon, lle bydd y car hefyd yn cael ei arddangos. Bydd cyfle i gefnogwyr glywed am ei dymor cyffrous ac i glywed sut deimlad yw bod y gyrrwr cyntaf erioed o Gymru i ennill Pencampwriaeth Rali’r Byd.

Bydd cyfle hefyd i gael llun gyda Elfyn ac i gael llofnod.

​

Parcio

​Bydd parcio ar gyfer y digwyddiad yn y Farchnad Da Byw yn unig. Y cyfeiriad yw Ffordd y Bala, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YF. Mae Sgwâr Eldon tua 600 metr o’r Farchnad Da Byw, taith gerdded fer o tua 8 munud.

​

Dilynwch yr arwyddion parcio ar gyfer y digwyddiad. Defnyddiwch yr A470 ac yna trowch ar yr A494, gan ddilyn yr arwyddion i Ddolgellau a’r Bala wrth y gylchfan. Mae mynedfa maes parcio y farchnad da byw ar y chwith. https://what3words.com/innovate.spray.refrain

 

Os bydd maes parcio y farchnad da byw yn llawn, bydd llefydd parcio ychwanegol ar gael yng Ngholeg Dolgellau, Ffordd Ty’n Coed, Dolgellau LL40 2SW. https://what3words.com/sake.gong.exhale

 

Bydd llefydd parcio anabl ar gael yn Nolgellau fel arfer.

​

Bydd gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu rhwng y farchnad da byw a maes parcio Marian ar gyfer rai sydd angen cymorth. Os bydd maes parcio’r coleg yn agor, bydd bws gwennol ar gael rhwng y maes parcio hynny a'r Marian. 

​

Peidiwch â defnyddio canol tref Dolgellau i gyrraedd y meysydd parcio.

​

Ni fydd maes parcio Marian Mawr ar gael, a bydd ar gau o 8yb ddydd Iau 15 Hydref.

​

Rhannwch gar os yn bosibl gan bod llefydd parcio yn brin. Os bydd meysydd parcio’r digwyddiad yn llawn, cofiwch ystyried y bobl lleol a busnesau tra’n parcio. 

​

Y Tywydd

Dewch wedi paratoi ar gyfer y tywydd, gallai fod yn wlyb ac yn oer. Bydd y digwyddiad yn gorffen wedi iddi dywyllu, felly cymerwch ofal wrth adael. Arhoswch ar y palmant neu’r llwybrau cerdded, peidiwch â cherdded allan i’r ffordd a chofiwch y gall yr arwynebau fod yn wlyb ac yn llithrig. Ac eithrio Sgwâr Eldon, bydd pob ffordd yn parhau ar agor, felly byddwch yn ofalus ac arhoswch ar y llwybrau cerdded.

 

Amserlen y digwyddiad

16:15 - Maes parcio’n agor

17:35 - Croeso

17:45 - Elfyn yn cyrraedd Sgwâr Eldon

18:10 - Llofnodi a chyfle i gwrdd â’r cefnogwyr

18:35 - Symud i faes parcio Marian

18:50 - Sioe ym maes parcio Marian

19:00 - Digwyddiad yn gorffen

 

Ffyrdd ar Gau

Er mwyn cynnal y digwyddiad yn ddiogel, bydd cyfyngiadau parcio yn Sgwâr Eldon, a ni fydd modd parcio yno o 1.00yp ddydd Iau. Bydd y ffordd drwy Sgwâr Eldon ar gau yn gyfan gwbl rhwng 3.30yp ac 8.00yh.

​

Bydd maes parcio Marian Mawr ar gau o 8.00yb ddydd Iau, a gofynnwn yn garedig i bob cerbyd gael ei symud cyn hynny. Bydd bariau yn cael eu gosod o amgylch y maes parcio, ac ni fydd mynediad i gerbydau o 8.00yb ymlaen.


Gofynnwn yn garedig i bawb barchu’r cyfyngiadau a’r ffyrdd sydd ar gau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn hwylus ac yn ddiogel, ac yn un i bawb allu ei fwynhau. 

 

Diweddariadau

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru dros y dyddiau nesaf pan fydd mwy o fanylion ar gael.

​

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â Chyngor Tref Dolgellau drwy e-bost neu dros y ffôn ar 01341 421071.

​

bottom of page